Head Prefects 2024/25
Libby Morgan

Helo fy enw i yw Libby Morgan ac rwy'n astudio Cymdeithaseg, Twristiaeth a Hyfforddi Chwaraeon yn y chweched dosbarth. Rwy’n gyn-ddisgybl o Ysgol gynradd Pencae. Rwy'n mwynhau gweithgareddau chwaraeon yr ysgol, yn enwedig pêl-rwyd ac rwyf hefyd yn mwynhau'r adran gelf a pherfformio. Fel prif swyddog hoffwn gyfrannu yn ôl i’r ysgol ar ôl yr holl gefnogaeth a gefais fel disgybl yma, ac rwy’n anelu at annog disgyblion i fanteisio ar bob cyfle sydd ar gael i sicrhau eu bod yn falch o’r iaith Gymraeg. Rwy’n falch o gael y cyfle i fod yn brif swyddog yng Nglantaf a dwi methu aros am y flwyddyn i ddod
Osian Lookyer

Helo! Fy enw i yw Osian Looker ac rwy’n astudio Mathemateg, Ffiseg a Mathemateg Bellach yma yng Nglantaf. Yn fy amser rhydd, rwy’n chwarae golff a badminton. Rwy’n gyn—ddisgybl o Ysgol Pencae. Rwy’n mwynhau y profiad o fod yn y Chweched a braint oedd cael fy newis yn un o Brif Swyddogion yr ysgol. Fel Prif Swyddog, hoffwn godi mwy o arian at achosion da a cheisio creu clybiau newydd ar ôl ysgol. Mae’n amser i mi nawr roi rywbeth yn ôl i’r ysgol ac edrychaf ymlaen yn fawr at y flwyddyn sydd i ddod.
Oliver Weekley

Helo, fy enw i yw Oliver Weekley ac rwy’n astudio Hyfforddiant Chwaraeon BTEC, Bagloriaeth Cymru a Thechnoleg Gwybodaeth yma yng Nglantaf. Rwy’n berson hyderus ac egnïol gyda angerdd cryf am chwaraeon a thechnoleg y celfyddydau perfformio. Rwy’n mwynhau bod yn rhan o bob agwedd ar fywyd ysgol, yn enwedig o fewn adrannau chwaraeon a chelfyddydau. Es i’r ysgol gynradd Ysgol Melin Gruffydd, ac rwy’n edrych ymlaen i barhau i hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant Cymreig yng Nglantaf fel Prif Swyddog eleni. Fy nod yw sicrhau bod pob disgybl yn teimlo’n rhan o’r ysgol, ac rwy’n edrych ymlaen at helpu creu amgylchedd ysgol cefnogol a chydweithredol.
Megan E Jones

Megan Elin Jones ydw i, dwi wedi bod yn astudio yng Nglantaf ers blwyddyn 7 ac eleni dwi’n astudio Seicoleg, Addysg Gorfforol, Bioleg a’r Fagloriaeth. Rwy’n gyn-ddisgybl o Ysgol Gynradd Gymraeg Pwll Coch. Dwi’n mwynau canu, chwarae’r trwmped a chwarae rygbi. Fy hoff beth am Lantaf yw’r cyfleoedd dwi wedi cael a’r gallu i wneud fy hoff bethau drwy gyfrwng y Gymraeg.